O arwain fy enaid i'r dyfroedd Y dyfroedd sy'n afon mor bur, Y dyfroedd a dorrant fy syched Er trymed fy nolur a'm cur, Y dyfroedd tragwyddol eu tarddiad, Y dyfroedd heb waelod na thrai, Y dyfroedd a olchant fy enaid Er dued, er amled fy mai. Da iawn i bechadur fod afon A ylch yr aflanaf yn wyn; Hi darddodd o'r nefoedd yn gyson, Hi ffrydiodd ar Galfari fryn; Hi lifodd i'r anial cenhedlig, Hi olchodd fil miloedd yn lān; Hi ylch ei miliynau'n llwyr gannaid Cyn rhoddi llawr daear ar dān. O deuwch, O deuwch i'r dyfroedd! Mae Crist yn ein gwahodd yn gu; I yfed o'r afon redegog, Sy'n tarddu dan riniog y tŷ: Oddiyno mae'r afon sy'n addas I loni hardd ddinas ein Duw Yn deilliaw yn ffrydiau diddiwedd, O'r ffynon sy'n beraidd ddŵr byw.
1-2: Thomas Jones 1756-1820
Tonau [9898D]: gwelir: O deuwch O deuwch i'r dyfroedd |
Oh lead my soul to the waters The waters which are a river so pure, The waters which quench my thirst Despite the heaviness of my sadness and my ache, The waters eternally springing, The waters without bottom or ebb, The waters which wash my soul Although so black, although so frequent my fault. It is very good for sinners that there is a river Which washes the most unclean white; It springs from the heavens constantly, It flowed on Calvary hill; It streamed to the gentile desert, It washed a thousand thousand clean; It will wash its millions completely bright Before setting the surface of the earth on fire. O come, O come ye to the waters! Christ is inviting us dearly; To drink from the running river, That issues under the threshold of the temple; From there the river is suitable To cheer the beautiful city of our God Springing into unending streams, From the well that is sweet, living water. tr. 2012,23 Richard B Gillion |
|